Active Healthy Kids Wales logo
Cefndir

Fel grŵp arbenigol PEI-Cymru o academyddion, addysgwyr a gweithwyr proffesiynol, rydym yn bryderus am iechyd plant yng Nghymru. Nod grŵp arbenigol PEI-Cymru yw defnyddio data am weithgarwch corfforol i eirioli dros hawl plant i chwarae, gwirioni ar chwaraeon a dawns, dysgu a chyflawni a bod yn egnïol ac iach. Rydym yn llawn cymhelliant i hybu ymddygiad iach ac egnïol a llythrennedd corfforol mewn plant. Ein cenhadaeth yw llunio Cardiau Cofnodi PEI-Cymru sy'n darparu sylfaen dystiolaeth glir am 10 dangosydd ansawdd sy'n gysylltiedig â gweithgarwch corfforol ac y dylid eu defnyddio i eirioli a dylanwadu ar bolisïau a buddsoddiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol mewn gweithgarwch corfforol ar gyfer plant a phobl ifanc.

I gefnogi nodau PEI-Cymru, ein rhesymeg yw mai yng Nghymru mae'r nifer mwyaf o blant dros eu pwysau yn y DU ac mae lefelau'r ymddygiad segur, gweithgarwch corfforol a ffitrwydd ymhlith y rhai gwaethaf yn fyd-eang. Yn groes i hyn, mae Cymru'n arloesi ym maes polisïau chwarae plant, mae deddf teithio egnïol yn rhan o statud Llywodraeth Cymru ac mae'n rhoi blaenoriaeth i lythrennedd corfforol fel rhan o hawl addysgol plant. Mae cerdyn cofnodi 2016 PEI-Cymru yn crynhoi cynnydd a safle'r wlad mewn perthynas â gweithgarwch corfforol plant yn gysylltiedig ag iechyd yn erbyn yr amcanion canlynol.

Amcanion
  1. Asesu ‘Cyflwr y Genedl' mewn perthynas â lefelau gweithgarwch corfforol ac ymddygiad segur.
  2. Olrhain tueddiadau mewn gweithgarwch corfforol ac ymddygiad segur.
  3. Cyflwyno cyd-destun rhyngwladol ar gyfer gweithgarwch corfforol ac ymddygiad segur.
  4. Cyfrannu at bolisïau, strategaethau, gwasanaethau ac arferion proffesiynol mewn gweithgarwch corfforol ac ymddygiad segur.
  5. Canfod y bylchau allweddol yn y wybodaeth sy'n gysylltiedig â gweithgarwch corfforol ac ymddygiad segur plant.
  6. Darparu tystiolaeth ar gyfer eiriolwyr gweithgarwch corfforol ac ymddygiad cysylltiedig ag iechyd.